A hoffech gael ein Cylchlythyr Skybus chwarterol?   Cliciwch yma i ddychwelyd i'r hafan.
Enw:      
E-bost:        
Awyren Skybus Twin Otters ac Ynyswr Normanaidd Llydaweg.
Cwch bach ar gors.



  Telerau ac Amodau  
   

 

Amseroedd cofrestru

Mae’n ofynnol i deithwyr gofrestru 1 awr cyn yr amser y mae’r awyren i fod i adael. Bydd y ddesg Gofrestru yn cau 30 munud cyn yr amser y mae’r awyren i fod i adael. Gellir gwrthod teithwyr sy’n cyrraedd ar ôl yr amser hwn, a’u aildrefnu i fynd ar yr awyren nesaf y mae lle arni. Ni chaiff teithwyr sydd wedi’u gwrthod oherwydd eu bod yn hwyr ad-daliad.


Cyfyngiadau Bagiau

Mae Skybus yn caniatáu i bob unigolyn gael bag sy’n pwyso 15kg. Ni chaiff y bag fod yn fwy na 32”x16”x14”.
Dim on dos oes lle ar gael y gellir derbyn bagiau trymach, ond bydd yn rhaid talu £1.00 a TAW am bob kilo ychwangeol. Nodwch: nid yw’r ffaith fod bagiau trymach yn cael eu derbyn ar y daith allan o reidrwydd yn golygu y byddant yn cael eu derbyn ar y ffordd yn ôl yn awtomatig.


Bagiau Llaw

Dim ond un bag llaw y caniateir i bob teithiwr. Mae bag llaw yn cynnwys eitemau fel bagiau llai, camera, côt neu eitemau bach eraill tebyg. Rhaid cofrestru unrhyw fag llaw mwy na 12”x12”x8”, ond ni fydd rhaid i chi dalu cost ychwanegol. Nodwch fod cyfyngiadau ar fagiau llaw oherwydd prinder lle yn y loceri uwch ben y seddau ar yr awyren ac oddi tanynt.

NI CHANIATEIR cario eitemau miniog fel cyllyll, siswrn, ffeil ewinedd neu eitemau o’r fath mewn bag llaw ar yr awyren. Bydd staff yn cadw unrhyw eitem o’r fath sy’n cael ei ddarganfod mewn bag llaw.

NI CHANIATEIR cario unrhyw nwyddau peryglus megis hylifau fflamadwy, ffrwydron, deunyddiau cyrydol neu ymbelydrol ac ati mewn awyren, ac felly PEIDIWCH â’u pacio. Mae’n bosibl y caiff bagiau sy’n cynnwys nwyddau o’r fath, neu i berchnogion y bagiau gael eu tynnu oddi ar yr awyren.

Noder bod yn rhaid cofrestru eitemau electronig mawr sy’n fwy na maint derbyniol y bag llaw (e.e. gliniaduron, chwaraewyr DVD), a chant eu cynnwys yn y 15kg sydd am ddim.)

Cymorth i Symud
Caniatéir defnyddio pramiau, offer cerdded a chadeiriau olwyn hyd nes fod y daith hedfan yn gadael, ac yna bydd y staff yn eu rhoi yng ngwaelod yr awyren gan staff pan fydd teithwyr yn mynd arni.
Mae’n rhaid rhoi gwybod ymlaen llaw os oes gennych gadair olwyn trwy gysylltu â’n Canolfan Deithio er mwyn cadw lle ar yr awyren ar ei chyfer.

Cysylltwch â chanolfan archebion Skybus ar enquiries@skybus.co.uk os oes gennych unrhyw amheuaeth am gario eitem ar awyren.


Prawf adnabod

Mae SKYBUS yn gofyn am un o’r mathau isod o brawf adnabod ar bob un o’u teithiau:

Teithiau o fewn y DU
O leiaf un o’r canlynol:
Pasbort dilys
Trwydded yrru ddilys â llun arni
Cerdyn Dinesydd dilys
Cerdyn bws dilys â llun arno wedi ei roi gan gyngor sir
Cerdyn adnabod dilys wedi ei gyhoeddi gan y llywodraeth, y fyddin neu’r heddlu
Cerdyn credyd dilys y teithiwr
Cerdyn banc dilys wedi ei arwyddo gan y teithiwr
Cerdyn adnabod Ynysoedd Sili dilys â llun arno.

Teithiau Rhyngwladol
Mae’n rhaid cael pasbort dilys.

Gofynion Prawf Adnabod ar gyfer Plant
Nid oes yn rhaid i blentyn o dan 16 oed sy’n hedfan o fewn y DU gydag oedolyn ddangos prawf adnabod â llun arno.

Nid yw Skybus yn caniatáu i blant o dan 8 oed deithio ar eu pen eu hunain. Rhaid i blant o dan 8 oed deithio gydag unigolyn 16 oed neu hŷn, sy’n fodlon cymryd cyfrifoldeb dros y plentyn. Rhaid i blant o 8 i 11 oed fod â ffurflen ar gyfer teithwyr ifanc, wedi ei llenwi gan riant neu warchodwr. Mae’r ffurflen ar gael gan Skybus trwy ffonio: +44 (0) 1736 334224.

Plant o Ffrainc o dan 18 oed
Mae’n rhaid i blant o dan 18 oed sy’n teithio heb riant/gwarchodwr cyfreithlon fod â cherdyn adnabod a ffurflen yn rhoi caniatâd ysgrifenedig wedi ei llenwi gan eu rhieni.

Rhaid i’r ffurflen hon gael ei chasglu o’u swyddfa heddlu leol, a rhaid dangos y cerdyn adnabod a’r ffurflen wrth y ddesg gofrestru ac yn y Man Rheoli Pasbortau.
Os na fydd y ffurflen hon ganddynt bydd y swyddogion rheoli pasbortau yn gwrthod gadael iddynt deithio.
Ni fydd ar blant sy’n teithio â phasport dilys angen y ffurflen hon, gan fod pasbort yn cyfateb i ganiatâd rhieni.
Rhaid  cael  y ffurflen hon ar deithiau rhyngwladol a theithiau mewnol. Nid yw’r Llyfr Teulu (Livret de Famille) yn brawf adnabod digonol ar gyfer plant/babanod sy’n teithio ar deithiau hedfan rhyngwladol.
Mae’n rhaid i blant sy’n teithio ar deithiau hedfan rhyngwladol Skybus fod â cherdyn adnabod neu basport, ac unrhyw ddogfennau angenrheidiol eraill.


Ffi Datblygu Maes Awyr Newquay

Mae gofyn i deithwyr sy’n hedfan o Faes Awyr Newquay, ar wahân i blant o dan 16 oed (mae’n bosibl y bydd yn rhai dangos prawf o’u hoed), gyfrannu £5 at gronfa datblygu’r maes awyr. Mae dau beiriant talu yn y Maes Awyr. Mae’r peiriannau yn derbyn arian parod a thaliadau cardiau credyd, ac yn rhoi derbynneb a fydd yn eich galluogi i fynd trwy’r system ddiogelwch. Maes Awyr Newquay, nid Skybus, sy’n codi’r tâl hwn.


Cyfleusterau ar yr awyren

Sylwer NAD OES tŷ bach ar ein awyren.
NID OES diodydd yn cael eu cynnig yn ystod taith Skybus.
Mae awyren Skybus Twin Otter yn gallu cario’r uchafswm o 17 o deithwyr, yn dibynnu ar y daith.


Anifeiliaid Anwes

Ac eithrio cwn tywys i deithwyr dall/byddar, a chwn cymorth i deithwyr anabl, sy’n cael eu derbyn ar bob taith hedfan Skybus, dim ond rhwng Maes Awyr Land’s End a Sant Mary’s y caniateir cludo anifeiliaid byw, a rhaid gwneud trefniadau ymlaen llaw.

Cwn Gweithio
Caiff cwn gweithio deithio am ddim ar lawr wrth draed eu perchennog os oes lle ar yr awyren. Mae’n rhaid i deithwyr roi gwybod i Skybus os ydynt yn teithio â chi gweithio, er mwyn sicrhau fod trefniadau yn cael eu gwneud ymlaen llaw. Dylid gwneud hyn trwy gysylltu â Chanolfan Deithio Skybus ar +44 (0) 1736 334224.


Teithwyr ag Angenion Arbennig neu Deithwyr Anabl

Mae Skybus yn gwneud popeth o fewn eu gallu i ddarparu ar gyfer teithwyr ag anghenion arbennig; ond oherwydd y math o awyren sydd gennym, mae rhai canllawiau y mae’n rhaid eu dilyn sy’n golygu na allwn ddarparu ar gyfer anghenion pawb. Dylai teithwyr y mae angen cymorth arbennig arnynt rybuddio’r cwmni o’u hanghenion wrth archebu eu seddi dros y ffôn, a dylai teithwyr sy’n archebu eu seddi ar-lein gysylltu â’r cwmni gan nodi eu cyfeirnod, er mwyn rhoi manylion am eu gofynion.


Canslo neu newid tocynnau

Rhaid rhoi rhybudd o 48 awr os ydych am ganslo neu newid eich tocyn. Rhaid talu dirwy o 15% am ganslo dros 48 awr cyn teithio. Ni fydd teithwyr sy’n canslo o fewn 48 awr i’r daith yn cael ad-daliad. Ni ellir newid na chael ad-daliad am docynnau ‘Saver’ arbennig.


Tywydd

Nid yw Skybus yn derbyn cyfrifoldeb am awyrennau sy’n hwyr neu’n cael eu canslo oherwydd y tywydd, neu am unrhyw amgylchiadau eraill sydd allan o’i reolaeth. Cynghorir teithwyr i sicrhau bod ganddynt yswiriant cynhwysfawr sy’n eu hyswirio os yw’r awyren yn hwyr neu’n cael ei chanslo. Nid yw Skybus yn gyfrifol am ail-drefnu neu ddod o hyd i drafnidiaeth arall i’w deithwyr os yw’r daith yn cael ei chanslo oherwydd tywydd garw. Bydd Skybus yn sicrhau y byddant yn rhoi’r teithwyr ar yr awyren nesaf y mae lle arni, neu yn cynnig ad-daliad i’w ddefnyddio ar gyfer taith arall yn y dyfodol. Bydd teithiwyr sy’n gwrthod hedfan ar yr awyren nesaf y mae lle arni, yn canslo neu’n gwneud trefniadau eraill yn cael cynnig ad-daliad.


Atebolrwydd am Ddifrod

Pe byddai damwain yn digwydd a fyddai’n achosi marwolaeth neu niwed i deithwyr ar awyren sy’n cael ei gweithredu gan gwmni awyrennau sy’n rhan o’r Gymuned Ewropeaidd, nid oes cyfyngiadau ar faint o arian y dylid ei dalu am y difrod os nad yw’r cwmni yn gallu profi mai esgeulustod y teithiwr sydd wedi marw neu wedi’i niweidio sy’n rhannol neu’n gwbl gyfrifol am y difrod.

Os yw’r taliadau’n fwy na 100,000 SDR (tua £85,000) rhaid i’r cwmni brofi nad oes bai arnynt hwy na’u hasiantaethau, a’u bod wedi cymryd yr holl gamau angenrheidiol i osgoi’r difrod, neu ei bod yn amhosibl iddynt gymryd y camau hynny.

Pe achosir dioddefaint ar ôl damwain rhaid i’r cwmni wneud taliadau ymlaen llaw i’r sawl sydd â’r hawl i iawndal, a fydd mewn achos o farwolaeth yn 15,000 SDR (tua £13,000) o leiaf.

Mae’r wybodaeth ar y dudalen hon (a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2007) yn cael blaenoriaeth ar fersiynau blaenorol ac mae’n bosibl y bydd yn cael ei newid heb unrhyw rybudd. Mae’r tocynnau sy’n cael eu rhoi a’r nwyddau sy’n cael eu cludo yn gaeth i’r cyfyngiadau a gyhoeddwyd a’r amodau cludo ‘Isles of Scilly Stemship Company Ltd’, ac Isles of Scilly Skybus Ltd, sydd ar gael i’w llwytho i lawr ar ffurf PDF: Amodau Cludo Skybus, PDF i’w llwytho i lawr.

(I weld dogfen PDF mae’n rhaid cael Acrobat Reader, ac mae modd ei lwytho i lawr am ddim. Gellir ei lwytho i lawr o www.adobe.com).

 

 
         

 

Amseroedd hedfan. Prisiau Skybus. Gwybodaeth am y teithiwr. Cysylltwch â ni. ARCHEBWCH NAWR.