A hoffech gael ein Cylchlythyr Skybus chwarterol?   Cliciwch yma i ddychwelyd i'r hafan.
Enw:      
E-bost:        
Dwy o awyrennau Skybus: DeHaviland Twin Otters ML a HO.
Traeth yng Nghernyw.

Cliciwch yma am wybodaeth am barcio ym:
* Caerdydd
* Newquay
* Sant Brieuc
* Sant Mary’s



 

Parcio yn y maes awyr

 
   

Parcio ym Maes Awyr Caerdydd

Cwmni Meysydd Parcio NCP sy’n gyfrifol am feysydd parcio Maes Awyr Caerdydd. Gellir archebu ar-lein yma.
Ewch ar wefan Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd am fwy o wybodaeth: www.cwlfly.com


Parcio ym Maes Awyr Newquay

(Mae’r wybodaeth hon wedi ei chymryd oddi ar wefan Maes Awyr Newquay a oedd yn gywir pan y’i cyhoeddwyd, ond cofiwch edrych eto cyn trefnu eich taith)

Mae 450 o leoedd parcio ar gael mewn 2 faes parcio bob ochr i Derfynfa’r Maes Awyr. Ar hyn o bryd mae 10 lle parcio ar gael i deithwyr anabl, wedi eu lleoli ym Maes Parcio A ger prif fynedfa’r derfynfa. Nid oes modd archebu lleoedd parcio ymlaen llaw. Nid oes lleoedd parcio penodol ar gyfer beiciau modur chwaith.

Wrth gyrraedd y Maes Awyr, rhaid pwyso’r botwm gwyrdd i fynd i mewn i unrhyw un o’r Meysydd Parcio a chymryd y tocyn sy’n cael ei roi. Dylid cadw’r tocyn hwn yn ddiogel gan y bydd ei angen arnoch pan fyddwch yn gadael y maes parcio ar ôl talu.

Ni ellir talu am barcio ymlaen llaw, ac mae’n rhaid talu yn syth cyn dychwelyd at eich cerbyd yn un o’r peiriannau talu sydd wedi eu lleoli yn y Derfynfa Gyrraedd. Dylid rhoi’r tocyn parcio gwreiddiol yn y peiriant gyda’r stribyn yn wynebu i fyny. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrîn i dalu. Unwaith y bydd y taliad wedi ei gadarnhau ar y sgrîn, tynnwch y tocyn allan o’r peiriant, a’i roi yn y blwch wrth adael y maes parcio.
Cewch aros yn y maes parcio AM DDIM i godi neu i ollwng teithwyr am hyd at 30 munud, ac nid oes rhaid i chi fynd trwy’r broses o ddilysu eich tocyn yn y peiriannau talu.
Gellir talu am barcio yn y peiriannau drwy ddefnyddio unrhyw un o’r dulliau canlynol:
Arian Parod neu Gerdyn Credyd neu Ddebyd gan gynnwys: Clwb Diners, Visa, MasterCard, Switch, Maestro a Debyd Visa.

Prisiau parcio ym Maes Awyr Newquay:

AMSER PRIS
Hyd at 15 munud  Am ddim
15 mun - 2 awr £0.50 bob hanner awr
2-3 awr £3.00
3-4 awr £4.00
4-6 awr £5.25
6-8 awr £6.25
8-12 awr £7.25
12-24 awr £8.00
Diwrnod 2-7   £5.50 y dydd
Diwrnod 8 ymlaen £4.00 y dydd

Mae’r Meysydd Parcio Cyhoeddus ar agor yn ystod oriau agor arferol y maes awyr o 6am i 10.30pm yn unig.

CYFRIFOLDEB Y PERCHENOG YW’R CERBYD A’I GYNNWYS, AC NID YW’R MAES AWYR YN DERBYN UNRHYW GYFRIFOLDEB AM GOLLED NEU DDIFROD I’R CERBYD NA’I GYNNWYS, NA PHOBL. NID OES UNRHYW GYFRIFOLDEB AR Y MAES AWYR AM GOLLI NA DIFROD I’R CERBYD, SUT BYNNAG Y CAFODD EI ACHOSI.


Parcio ym Maes Awyr Sant Brieuc

Mae parcio ym Maes Awyr Sant Brieuc am ddim. Ewch i wefan Maes Awyr Sant Brieuc i weld map o leoliad y maes parcio.


Parcio ym Maes Awyr Sant Mary’s

Mae parcio ym Maes Parcio Sant Mary’s am ddim, ond mae’r lleoedd parcio yn brin. Cyngor Ynysoedd Sili sy’n gyfrifol am y maes parcio.



 
         
Amseroedd hedfan. Prisiau Skybus. Gwybodaeth am y teithiwr. Cysylltwch â ni. ARCHEBWCH NAWR.