A hoffech gael ein Cylchlythyr Skybus chwarterol?   Cliciwch yma i ddychwelyd i'r hafan.
Enw:      
E-bost:        
Awyren Skybus Twin Otter ML yn barod i adael Maes Awyr Sant Mary’s yn Ynysoedd y Scillies.
Sant. Agnes, Tresco, Ynysoedd y Sili.

Edrychwch ar ein Telerau ac Amodau i gael yr holl fanylion.

 

Cyfyngiadau Bagiau 

 
   



Bagiau wedi eu cofrestru

Mae Skybus yn caniatáu i bob unigolyn gael bag sy’n pwyso 15kg. Ni chaiff y bag fod yn fwy na 32”x16”x14”.
Dim ond os oes lle ar gael y gellir derbyn bagiau trymach, ond bydd yn rhaid talu £1.00 a TAW am bob kilo ychwangeol. Noder: nid yw’r ffaith fod bagiau trymach yn cael eu derbyn ar y daith allan o reidrwydd yn golygu y byddant yn cael eu derbyn ar y ffordd yn ôl yn awtomatig.


Bagiau Llaw

Dim ond un bag llaw y caniateir i bob teithiwr. Mae bag llaw yn cynnwys eitemau fel bagiau llai, camera, côt neu eitemau bach eraill tebyg. Rhaid cofrestru unrhyw fag llaw mwy na 12”x12”x8”, ond ni fydd rhaid i chi dalu cost ychwanegol. Nodwch fod cyfyngiadau ar fagiau llaw oherwydd prinder lle yn y loceri uwch ben y seddau ar yr awyren ac oddi tanynt.

NI CHANIATEIR cario eitemau miniog fel cyllyll, siswrn, ffeil ewinedd neu eitemau o’r fath mewn bag llaw ar yr awyren. Bydd staff yn cadw unrhyw eitem o’r fath sy’n cael ei ddarganfod mewn bag llaw.

NI CHANIATEIR cario unrhyw nwyddau peryglus megis hylifau fflamadwy, ffrwydron, deunyddiau cyrydol neu ymbelydrol ac ati mewn awyren, ac felly PEIDIWCH â’u pacio. Mae’n bosibl y caiff bagiau sy’n cynnwys nwyddau o’r fath, neu i berchnogion y bagiau gael eu tynnu oddi ar yr awyren.

Noder bod yn rhaid cofrestru eitemau electronig mawr sy’n fwy na maint derbyniol y bag llaw (e.e. gliniaduron, chwaraewyr DVD, a chânt eu cynnwys yn y 15kg sydd am ddim.)


Cymorth i Symud

Caniatéir defnyddio pramiau, offer cerdded a chadeiriau olwyn hyd nes fod y daith hedfan yn gadael, ac yna bydd y staff yn eu rhoi yng ngwaelod yr awyren gan staff pan fydd teithwyr yn mynd arni.
Mae’n rhaid rhoi gwybod ymlaen llaw os oes gennych gadair olwyn trwy gysylltu â’n Canolfan Deithio er mwyn cadw lle ar yr awyren ar ei chyfer.

Cysylltwch â chanolfan archebion Skybus ar enquiries@skybus.co.uk os oes gennych unrhyw amheuaeth am gario eitem ar awyren.

 
         
Amseroedd hedfan. Prisiau Skybus. Gwybodaeth am y teithiwr. Cysylltwch â ni. ARCHEBWCH NAWR.