A hoffech gael ein Cylchlythyr Skybus chwarterol?   Cliciwch yma i ddychwelyd i'r hafan.
Enw:      
E-bost:        
Harbwr Sant Brieuc.

Mwynhewch yr awyrgylch gyda’r nos yn Sant Brieuc.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am:
* Gaerdydd
* Digwyddiadau
* Lleoedd i aros

  Crwydro Sant Brieuc  
   


Mae amrywiaeth o drefi prydferth yn Llydaw. Mae ymwelwyr yn gwirioni ar ardaloedd canoloesol Quimper a Dina, ar gastell hardd Josselin, a golygfeydd gwych arfordir St Malo.


Ynglyn â Sant Brieuc

Mae Sant Brieuc yn hardd oherwydd ei leoliad; mae wedi datblygu rhwng dyffrynnoedd serth R.Gouedic i’r dwyrain, a R. Gouet i’r gorllewin. Bryn Notre-Dame yn y gogledd-orllewin yw’r lle gorau i fwynhau’r golygfeydd gwych, ac oddi yno gallwch ymweld â’r Theatr Awyr Agored, a Gerddi’r Grandes Promenades ger y Llysoedd Barn.

Cenhadwr o Gymru oedd Sant Brieuc, ddaeth i Armorica yn y 6ed Ganrif. Yn ôl pob sôn cyrhaeddodd gyda 84 cydymaith, sydd bellach yn cael ei alw’n Legue, ac fe adeiladodd fynachdy ar lwyfandir trionglog yn edrych dros y bae.

Rue Saint-Guillaume yw prif stryd siopau Sant-Brieuc, wedi ei henwi ar ôl esgob o’r dref oedd yn byw yn y drydedd ganrif ar ddeg. Nid yw Eglwys Gadeiriol Sant Stephen ymhell oddi yma, adeilad gwerth ei weld sy’n ymdebygu i gaer, ac roedd unwaith yn gadarnle Rhufeinig pwysig. Mae’r ddau dŵr yn dyddio yn ôl i’r 14eg ganrif, gyda ffenestri cul a rhodfa ar ben y clawdd. Mae sawl tŷ hardd ar strydoedd Sant Brieuc sy’n amgylchynu’r castell.

Gallwch fynd i harbwr prydferth Legue o ganol y dref, ac oddi yno gallwch grwydro Dyffryn  Gouet.

Mae 7km o dirlun sydd o ddiddordeb biolegol ym Mae Sant Brieuc, sy’n denu adar o bob math dros y gaeaf, ac felly’n lle delfrydol i wylio adar sy’n ymfudo megis gwyddau, hwyaid ac adar y glannau, ac ar ôl tymor paru’r haf, pibyddion a phibyddion bach. Cynhelir teithiau natur ym mis Gorffennaf, Awst ac yn ystod Gwyliau Ysgolion.
Binic
Hen bentref pysgota a oedd unwaith yn brif harbwr yn Ffrainc i’r Tir Newydd ar gyfer pysgota dŵr dwfn yn ystod y 19eg ganrif.

Gellir mynd ar deithiau diwrnod ar gychod sy’n gadael ac yn dychwelyd i Harbwr Binic o fis Gorfennaf i fis Medi.
Gwisgoedd hanesyddol, gwisg i’r pen a chrefftau. Cynhyrchion menyn a seidr. Amaethu Llin a Gwenith yr Hydd
Gŵyl Penfras Fete de la Morue a gynhelir ym mis Mai neu Fehefin, yn dibynnu ar y llanw.

Paimpol
Tref Harbwr, o dan ddylanwad pysgota dŵr dwfn y Tir Newydd a Gwlad yr Iâ yn y 19eg Ganrif, a gafodd ei hanfarwoli gan Pierre Loti; sawl cei bywiog, cartrefi perchnogion cychod, Place du Martray, tai o’r 16eg ganrif; Musee de la Mer (Amgueddfa Forwrol); Musee de Costume (Amgueddfa Wisgoedd).
Mae Beauport Abbey, abaty o’r 13eg ganrif sydd wedi cael ei adnewyddu’n rhannol, mewn safle gwych ar yr arfordir, ac mae eglwys yr abaty, y cabidyldy a’r storfa ar agor drwy’r flwyddyn, gyda cherddoriaeth mewn Llydaweg gyfoes a chanu bob dydd Iau yng Ngorffennaf.
Mae gŵyl Shanty’r Môr yn cael ei chynnal bob blwyddyn am yn ail (y nesaf yn 2009)


Digwyddiadau yn Sant Brieuc

Cité Rap
Cyfarfod rhanbarthol y diwylliannau trefol
27 Hydref tan 3 Tachwedd, Sant Brieuc
Cyfle i ddarganfod cyfoeth y diwylliant ‘hip hop’: cyngherddau, graffiti, ysgrifennu, artistiaid graffiti adnabyddus dros y byd, dj-io. Brwydr y dawnsio, cyngherddau ‘slam’ ac artistiaid yn perfformio yng nghanol y ddinas ac yn y dalgylch am wythnos.
Gwefan: www.citerap.fr

Paroles d’hiver (geiriau’r Gaeaf)
22 Tachwedd i 9 Rhagfyr, Sant-Brieuc a Côtes d'Armor.
Mae’r ŵyl hon yn rhoi’r cyfle i chi arbrofi â phob ffurf o eiriau: adrodd straeon, naratif, arwraidd, mytholegol, chwedlonol, theatr, cleciau, gair llafar, cerddi, celf gweledol, celfyddyd gain.
Gwefan: www.oddc22.com


Lleoedd i Aros

Dyma dewisiadau o lety yn ardal Sant Brieuc:
* La Demeure, tua 10 munud o’r maes awyr: www.demeure-vb.com

I gael dewis eang o lefydd i aros yn Sant Brieuc ewch i wefan y ganolfan groeso:
www.baiedesaintbrieuc.com
Neu i gael dewis o westai: www.euro-hotels.com neu www.hotelsabroad.com

 
         
Amseroedd hedfan. Prisiau Skybus. Gwybodaeth am y teithiwr. Cysylltwch â ni. ARCHEBWCH NAWR.