| |
|
Ynglyn â Newquay...
Mae’n debyg mai dyma’r lle mwyaf poblogaidd yng Nghernyw, a phrifddinas brigdonni Prydain – gyda thraeth Fistral yn gartref i sawl cystadleuaeth flaenllaw yn y maes.
Tref fywiog a phrysur gyda 11 o draethau gwych, a’r tywod euraidd yn eu gwneud yn addas i bawb – o deuluoedd i firgdonnwyr o fri! Mae’r traethau Crantock, Holywell, Mawgan Porth a Bae Watergate cyfagos yn cynnig rhywbeth unigryw i bawb.
Adloniant i Deuluoedd
Mae Newquay yn llawn atyniadau i ddiddanu teuluoedd, boed ar y traeth neu yn y dref. Beth am ddod wyneb yn wyneb â siarc yn acwariwm Bluereef? Neu fod yn geidwad sŵ am ddiwrnod yn Sŵ Newquay? Mae hwyl i’w gael o dan do hefyd, beth am roi cynnig ar nofio yng nghynhesrwydd y pwll nofio trofannol yn ‘Waterworld’ ym mharc hamdden Trenance.
Bwyd da
Bwyd da, golygfeydd gwych a chwmni gwell – mae hyn oll yn gwneud Newquay y lle delfrydol i dreulio noson. P’un a ydych awydd bwyd môr ffres, prydau o’r cyfandir, barbeciw neu ‘sgodyn a sglodion traddodiadol – mae rhywbeth at ddant bawb yn yr holl dai bwyta gwych.
Rhowch gynnig ar fwyty Rick Stein yn Padstow; bwyty ‘Fifteen’ Jamie Oliver ym Mae Watergate neu unrhyw un arall o’r holl dai bwyta gwych yn Newquay.
Digwyddiadau
Os ydych yn chwilio am wyliau bywiog a byrlymus, Newquay yw’r lle i chi! Mae popeth ar gael yma, o frigdonni i fariau. Treuliwch eich dyddiau’n dysgu sut i hwylio ar y tonnau, ac mae sawl ysgol ar y traethau yn barod i’ch hyfforddi, neu rhowch gynnig ar grwydro’r creigiau neu abseilio neu gaiacio, ac yna gyda’r nos anelwch am y bariau a’r clybiau o amgylch y traethau a’r dref. O gerddoriaeth y DJ gorau i felodïau mwyn, mae rhywbeth i blesio pawb yma.
Mae atyniadau, traethau tawel, gweithgareddau a theithiau lu yn aros i chi eu crwydro yng Nghernyw. I gael rhagor o wybodaeth am bethau i’w gwneud ewch i www.cornwalltouristboard.co.uk neu www.visitcornwall.co.uk.
Digwyddiadau yn Newquay
Chwilio am Wyau Pasg, Traeth Towan, Newquay, Penwythnos Pasg (21 i 24 Mawrth)
Treuliwch Ddydd Sul y Pasg yn chwilota trwy dywod euraidd traeth Towan am wyau arian sydd wedi eu claddu.
‘Run to the Sun’, Parc Gwyliau Trevelgue, 23 i 26 Mai
Parti mawr dros dri diwrnod sy’n denu miloedd o VW beetles a gwersyllwyr i Newquay, a 3 noson o’r clybiau gorau, gyda sêr mwyaf yn aros i’ch diddanu.
Noson ‘Fat Face Night Surf’, Traeth Lusty Glaze, Mehefin 22-23.
Rhan o’r gyfres ‘Fat Face Extreme Nights’, lle daw rhai bencampwyr brigdonni ynghyd gyda’r nos i ddangos eu doniau, gyda goleuadau yn wedi’u gosod i oleuo’r môr, gyda pharti ar y traeth i deuluoedd o bob oed.
Gŵyl K, Traeth Fistral a’r Barrowfields, 6-7 Mehefin
Digwyddiad cerddorol anhygoel sy’n cael ei gynnal ochr yn ochr â chystadleuaeth brigdonni Cwpan Animal Prydain. Dau ddiwrnod llawn o frigdonni, cerddoriaeth ac adloniant.
Veuve Clicquot Polo ar y Traeth, Bae Watergate, Mehefin.
Dewch i weld cystadleuaeth gyffrous rhwng timau profiadol sy’n ysu am y teitl ‘Cicquot’, ac yna ar ddiwedd y gêm cynhelir parti gwych gyda choctels siampên a cherddoriaeth fyw.
Noson y Pryfed, Sŵ Newquay, Mehefin 25
Cipolwg ar fyd y pryfaid ar daith nos i Sŵ Newquay.
Gŵyl Bêl-droed ar y Traeth, Traeth Lusty Glaze, 5-6 Gorffennaf
Digwyddiad poblogaidd ar gyfer plant ac oedolion. Mae timau’r ysgolion yn hyfforddi yn ystod y dydd, a’r timau gorau yn cystadlu ar y traethau euraidd.
Carnifal y ‘Newquay Lion’, Tref Newquay, Gorffennaf
Digwyddiad bywiog, gyda’r strydoedd yn llawn lliw a diddanwch.
Diwrnod ‘White Stuff Surf Relief UK’, Bae Watergate, Canol Gorffennaf
Gŵyl un diwrnod sy’n cyfuno digwyddiadau brigdonni proffesiynol a cherddoriaeth fyw i godi arian at yr elusen Surf Relief UK.
Diwrnod RNLI, Gorsaf Badau Achub Newquay, Dechrau Awst
Gŵyl i’r teulu oll. Mwynhewch y bad achub yn lansio arddangosfeydd hofrenyddion a gweld arwyr y RNLI wrth eu gwaith.
Gŵyl ‘Ripcurl Boardmasters Unleased’, Traeth Fistral, Newquay, Awst 6-12
Gŵyl frigdonni, sglefrio a cherddoriaeth fwyaf Ewrop, sy’n denu digwyddiad brigdonni WQS i Newquay, gyda 7 noson o fandiau ar Draeth Fistral i ddilyn.
Pencampwriaeth Rygbi RFU ar y Traeth, Traeth Lusty Glaze, 23-25 Awst
Rownd derfynol y Gyfres Rygbi ar y Traeth Genedlaethol, sy’n denu timau o bob cwr o’r wlad i gystadlu ar y tywod euraidd ar Drath Lusty Glaze. Bwyd da, cerddoriaeth fyw a thân gwyllt.
Gŵyl Bysgod Newquay, Harbwr Newquay, Medi
Arddangosfa o’r dewis eang o fwyd môr sydd ar gael yn Newquay, wedi ei leoli yn yr harbwr hanesyddol.
‘Zapcat King of the Surf Grand Prix’, Bae Watergate, Medi/Hydref
Yr unig ran o’r cylchedd Zapcat sy’n cymryd rhan ar draeth brigdonni, ac mae’n gyfle i weld catamaranau hynod bwerus, ‘twin-hulled’ yn troi a throelli y tu allan i’r dŵr.
Carnifal Gwisg Ffansi Nos Galan, Tref Newquay, Rhagfyr 31.
Does unman yn well na Newquay ar Nos Galan am wisg ffansi. Byddwch yn fentrus gyda’ch gwisg, neu os yw’n well gennych, gallwch wylio’r cyfan yn eich dillad eich hun.
Pencampwriaeth Achub Bywyd ‘Rescue 2010’ y Byd, Traeth Fistral, Newquay
Bu Newquay yn llwyddiannus yn eu hymgais i gael Pencampwriaeth Achub Bywyd ‘Rescue 2010 y Byd. Cadwch le yn eich calendr ar ei gyfer – bydd yn ddigwyddiad a hanner!
Lleoedd i Aros
I gael dewis eang o lefydd i aros yn Newquay, ewch i wefan y ganolfan groeso:
www.uk250.co.uk neu www.aboutbritain.com
Neu i gael dewis o westai: www.newquayguide.co.uk
|
|