A hoffech gael ein Cylchlythyr Skybus chwarterol?   Cliciwch yma i ddychwelyd i'r hafan.
Enw:      
E-bost:        
Castell Cromwell a Bryher, Ynysoedd y Sili.

Gerddi Tresco Abbey, Ynysoedd y Sili.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am:
* Gaerdydd
* Digwyddiadau
* Lleoedd i aros

  Crwydro Ynysoedd Sili  
   

Ynglyn â Sili

Mae cynhesrwydd Afon y Gwlff a chysgod yr Iwerydd yn gwneud Ynysoedd y Sili, sy’n dibynnu ar ar gychod ac awyrennau i’w cysylltu â’r tir mawr, yn gwbl unigryw. Mae cymuned gyfeillgar o tua 2000 o drigolion yno, ac mae gan y Sili lonyddwch is-drofannol ac ansawdd byw sydd y tu hwnt i ddychymyg llefydd llai ynysig.

Mae’r lleoliad yn ddelfrydol i fynd am daith am ddiwrnod i Gernyw, neu am ychydig o ddyddiau neu wyliau hirach. Mae’r traethau glân gloyw, y planhigion ecsotig, y bywyd gwyllt cyfoethog, y golygfeydd gwych, y cestyll o’r Rhyfel Cartref a’r safleoedd hanesyddol – i gyd yn drysorau’r ynys sy’n aros i gael eu canfod gennych. Mae bywyd ar bump o’r ynysoedd, a gallwch ddewis treulio’ch gwyliau yn: Sant Mary’s, Tresco, Bryher, Sant Martins a Sant Agnes.

I gael mwy o wybodaeth am Ynysoedd Sili, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gwneud, trefnu gwyliau a lleoedd i aros, ewch i’r gwefanau canlynol:
* Isles of Scilly Travel
* Bwrdd Croeso Ynysoedd Sili (Simply Scilly)
* Isles of Scilly Inclusive Holidays
* Travel Smith


Digwyddiadau yn Sili

Gŵyl Gerdded, 24 Mawrth – 31 Mawrth
Roedd yr ŵyl yn llwyddiant ysgubol yn 2007. Digwyddiad cymdeithasol gwych, gyda theithiau cerdded addas i bawb, a themâu fel hanes, gwylio adar, llysieueg, golygfeydd neu fywyd môr ar bob taith – a’r cyfan er mwyn casglu arian at achos da. Ewch i’w gwefan i gael mwy o wybodaeth: www.walkscilly.co.uk

Marathon Tresco, 13 Ebrill
Mae’r digwyddiad blynyddol hwn ar yr ynys yn cyfateb i Farathon Llundain. I gael mwy o wybodaeth ewch i : www.tresco.co.uk

Pencamwriaethau ‘World Pilot Gig’, 2 – 5 Mai
Mae’r sioe wych flynyddol hon yn denu criwiau o dde-orllewin Lloegr a thramor. Ewch i’w gwefan i gael amserlen o’r digwyddiadau a gwybodaeth bellach: www.worldgigs.co.uk

Cwmni Theatr ‘Miracle’, 24 – 27 Gorffennaf
‘Jason’. Perfformiadau awyr agored yng ngerddi Chapliancy yn Sant. Mary’s, a Gerddi Tresco Abbey. Perfformiadau ‘theatr’ ychydig yn wahanol i’r naturiol!

Ras Hwylio o amgylch yr ynys, 3 Awst
Mae’n werth gweld y gwahanol gychod sy’n hwylio o amgylch Sant Mary’s yn y ras hon.

Cynhyrchiad Theatr Set-Up, 9 a 10 Awst
‘All’s Well That Ends Well’. Mae perfformiadau ar Sant Mary’s a Tresco, ac maent yn siŵr o ddiddanu pawb.


Lleoedd i aros

I gael dewis eang o lefydd i aros ar Ynysoedd Sili ewch i’n gwefan arbennig ni: www.islesofscilly-travel.co.uk
Neu i wefan y ganolfan groeso: www.simplyscilly.co.uk

 
         
Amseroedd hedfan. Prisiau Skybus. Gwybodaeth am y teithiwr. Cysylltwch â ni. ARCHEBWCH NAWR.