A hoffech gael ein Cylchlythyr Skybus chwarterol?   Cliciwch yma i ddychwelyd i'r hafan.
Enw:      
E-bost:        
Tîm Rygbi Cymru yn chwarae yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd. Llun drwy garedigrwydd www.visitcardiff.com.

Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd. Llun drwy garedigrwydd www.visitcardiff.com.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am:
* Gaerdydd
* Digwyddiadau
* Lleoedd i aros

  Crwydro Caerdydd  
   


Ynglyn â Chaerdydd

Cafodd Caerdydd ei gwneud yn brifddinas Cymru ym 1955, a dyma brifddinas ieuengaf Ewrop. Mae Caerdydd, ar lan Môr Hafren, yn falch o’i hanes, ac yn wir roedd unwaith yn un o borthladdoedd prysuraf y byd.
Erbyn heddiw mae Caerdydd yn ddinas gyffrous, yn gymysgedd o’r hen a’r newydd, gyda phensarniaeth o Oes Fictoria ac Edward ochr yn ochr â datblygiadau modern, newydd.
Mae’r enw ‘Caerdydd’ yn tarddu o enw’r Swyddog Rhufeinig Aulus Didius – galwyd y ddinas yn ‘Caer Didi’ ar ei ôl. Gellir olrhain hanes y ddinas yn ôl i gyfnod y Rhufeiniaid.
Mae Caerdydd yn ddinas sy’n werth ei gweld, yn ddelfrydol i dreulio penwythnos yma, neu fel sail i unrhyw wyliau yng Nghymru. I gael wybodaeth am bethau i’w gwneud a’u gweld yng Nghymru cyn cychwyn ewch i www.visitcardiff.com



Digwyddiadau yng Nghymru

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau ewch i www.itvlocal.com/wales

Marchnad Caerdydd
Taith gerdded tua 5 munud o orsaf drenau a bysiau Caerdydd Canolog: www.cardiff-market.co.uk

2008

  • Stadiwm y Mileniwm: RBS Rygbi’r Chwe Gwlad:
    9 Chwefror – Cymru yn erbyn yr Alban, dechrau am 14:00.
    23 Chwefror – Cymru yn erbyn yr Eidal, dechrau am 15:00.
    15 Mawrth – Cymru yn erbyn Ffrainc, dechrau am 17:00
    24 Mai – Trydedd rownd derfynol ar ddeg Cwpan Heineken:      www.millenniumstadium.com
  • Bydd EUB Tywysog Cymru yn agor canolfan groeso newydd yng nghastell Caerdydd ar 1 Mawrth (Dydd Gŵyl Dewi)
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd am y tro cyntaf ers 30 mlynedd. 2-9 Awst. www.eisteddfod.org.uk
  • Bydd cystadleuaeth gelf cyfoes, Artes Mundi, yn cael ei gynnal am y trydydd tro yn yr Amgeueddfa Genedlaethol. www.museumwales.ac.uk neu www.artesmundi.org

2009

  • Bydd tîm criced Cymru a Lloegr yn chwarae yn erbyn Awstralia yng ngormes yr Ashes yng ngerddi Sophia  - cartref Clwb Criced Morgannwg.
  • Gemau Ieuenctid Prydain – cynhelir y Gemau Ysgolion Prydain uchel eu parch yng Nghymru yn 2009, gyda digwyddiadau yng Nghaerdydd, Abertawe a Chasnewydd. Yng Ngemau Ysgolion Prydain mae pobl ifanc o bob cornel o’r wlad yn cystadlu mewn sawl maes chwaraeon am y teitl athletwyr gorau ysgolion Prydain.

2010

  • Mae cystadleuaeth golff bwysicaf y byd, Cwpan Ryder, yn dod i westy’r Celtic Manor yn Ne Cymru. www.rydercup.com
  • Bydd Amgueddfa Caerdydd yn agor ei ddrysau yn yr Hen Lyfrgell. Bydd yr amgueddfa yn adrodd hanes Caerdydd – o ddyddiau’r gaer Rhufeinig i’r brifddinas gyfoes yn yr unfed ganrif ar hugain: www.museumwales.ac.uk

2012

  • Cynhelir gemau pêl-droed yn Stadiwm y Mileniwm, yn rhan o Gemau Olympaidd Llundain 2012. main.london2012.com/en


Lleoedd i Aros

I gael dewis eang o lefydd i aros yng Nghaerdydd ewch i wefan y ganolfan groeso:
www.visitcardiff.com
Neu i gael dewis o westai: www.openroads.com neu www.bookahotel4less.co.uk


 
         
Amseroedd hedfan. Prisiau Skybus. Gwybodaeth am y teithiwr. Cysylltwch â ni. ARCHEBWCH NAWR.