Ffordd
O’r Dwyrain:
Dilynwch yr A30 trwy Bodmin i gyfeiriad Newquay nes bydd arwydd yn eich cyfeirio i Indian Queens a’r Maes Awyr. Trowch oddi ar yr A30 a dilynwch yr arwyddion.
O’r Gorllewin:
Dilynwch yr A30 i’r Dwyrain gan adael tref Newquay ar y chwith. Trowch oddi ar y brif ffordd gan ddilyn arwyddion Wadebridge ac Indian Queens, a dilynwch arwyddion y Maes Awyr.
Bws
Mae cwmnïau Western Greyhound a Summercourt Travel yn darparu gwasanaeth i Faes Awyr Newquay.
Cliciwch yma i weld amseroedd gwasanaeth Western Greyhound rhif 556 (Newquay i Padstow).
Mae Summercourt Travel yn darparu gwasanaeth yn ôl y galw rhwng Newquay a Maes Awyr Newquay, ac mae gofyn archebu ymlaen llaw. Mae’r gwasanaeth yn gadael bob 30 munud, er mwyn cyd-fynd â theithiau hedfan, ac maent yn weithredol bob dydd y mae’r maes awyr ar agor. Cost y gwasanaeth yw £10 i un teithiwr, £5 yr un os oes dau yn teithio a £3.50 yr un os oes tri neu fwy yn teithio.
Am fwy o wybodaeth am y gwasanaethau hyn, neu i gysylltu â’r cwmnïau, cliciwch ar y dolenni isod:
Western Greyhound,
Ffôn 01637 871871
Summercourt Travel, Ffôn 01726 861108
Bws Moethus
Mae gwasanaeth bysiau moethus ar gael bob dydd i ganol tref Newquay o Lundain, a gwasanaeth National Express o Plymouth, Bryste a Manceinion, sy’n cysylltu’r dref â gweddill y wlad. Bydd angen tacsi neu fws arnoch o Faes Awyr Newquay i Orsaf Fysiau Newquay.
Trên
Mae gwasanaeth cyflym, uniongyrchol i dref Newquay ar gael o Lundain, Canolbarth Lloegr, Gogledd Lloegr a’r Alban bob dydd Sadwrn dros yr haf. Y cwmnïau sy’n darparu’r gwasanaethau hyn yw Virgin, Great Western a threnau Wales and West. Cysylltwch â llinell ymholiadau National Rail ar (08457) 484950. Bydd angen tacsi neu fws arnoch o Faes Awyr Newquay i’r orsaf drenau.
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Mae Traveline yn cynnig gwybodaeth ddi-duedd am amseroedd trafnidiaeth gyhoeddus, o wasanaethau bysiau lleol, trenau, cychod, bysiau moethus neu gyfuniad o’r pedwar. Gellir trefnu’r daith o leoliad neu o gôd post penodol.
Ffoniwch Traveline ar 0870 6082 608.
Map

Gwefan
Am fwy o wybodaeth am Faes Awyr Newquay Cornwall ewch i: www.newquaycornwallairport.com.
|