A hoffech gael ein Cylchlythyr Skybus chwarterol?   Cliciwch yma i ddychwelyd i’r hafan.
Enw      
E-bost:        
Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, Cymru.

Awyren Skybus G-CBML.

Cliciwch ymai gael gwybodaeth sut i gyrraedd ar:
* Ffordd
* Tacsi
* Trên
* Bws
* Bws Moethus
* Trafnidiaeth
   Gyhoeddus

* Map
* Gwefan


 

Cyrraedd Maes Awyr Caerdydd

 
   

Ffordd

Maer maes awyr wedi ei leoli yn Y Rhws ym Mro Morgannwg, 12 milltir i'r gorllewin o Gaerdydd, a 10 milltir o Gyffordd 33 ar yr M4.

Gadewch yr M4 ar Gyffordd 33 a dilynwch arwyddion Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd ar hyd yr A4232, A4050 a'r A4226. Côd post y maes awyr ar gyfer systemau Sat Nav yw CF62 3BD.

Os ydych yn gyrru i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, fe welwch fesurau diogelwch ar y ffyrdd cyfagos. Mae'r mesurau hyn yn cynnwys:
Mynediad i'r man codi/gollwng, y maes parcio arhosiad byr ac os nad ydych wedi archebu lle parcio ymlaen llaw yn y maes parcio arhosiad hir ar hyd y ffordd Ddwyreiniol, Port Road Mynediad os ydych wedi archebu lle parcio ymlaen llaw yn y maes parcio arhosiad hir ar hyd y ffordd Orllewinol, cylchfan
A4226 a B4265.
Mae'r mannau codi a gollwng teithwyr yn y maes parcio arhosiad byr, a chewch aros yno AM DDIM AM 20 MUNUD. Peidiwch â chodi na gollwng neb ar y ffyrdd cyfagos, gan y gallai hynny achosi problemau traffig, a byddai hefyd yn creu mwy o waith cerdded i'ch teithwyr.


Tacsi

Mae tacsis swyddogol y maes awyr, Checker cars, yn cynnig gwasanaeth 24 awr i gludo teithwyr i'r maes awyr ac oddi yno. Mae eu swyddfa wedi ei lleoli y tu allan i'r derfynfa gyrraedd.

Mae prisiau'r tacsis swyddogol yn gyson ddydd a nos.Tua £24 ydy cost tacsi o'r maes awyr i ganol Caerdydd.

Gall teithwyr sydd angen cymorth arbennig gael eu cludo at flaen y derfnyfa gan Checker Cars. Mae tacsis ar gael wedi i chi gyrraedd, neu gellir trefnu ymlaen llaw trwy e-bostio cardiff@checkercars.com neu drwy ffonio 01446 711747.


Trên

Mae trên yn cysylltu Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd Y Rhws â Chaerdydd Canolog a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae'r trenau'n rhedeg bob awr o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, a phob dwy awr ar y Sul. Mae bws gwennol (yn rhad ac am ddim i deithwyr â chanddynt docyn trên dilys) sy'n cario teithwyr o'r orsaf i derfynfa gyfagos y maes awyr. Mae adnoddau ar gael ar gyfer teithwyr sydd angen cymorth arbennig.

Am fwy o wybodaeth ffoniwch 0845 748 49 50 neu ewch i y wefan www.arrivatrainwales.co.uk


Bws

Mae gwasanaeth Bws Caerdydd X91 ar gael rhwng Caerdydd (Gorsaf Ganolog) a Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd bob awr yn ystod y dydd o'r Llun i'r Sadwrn, a phob dwy awr ar y Sul a Gwyliau Banc.

Yn ychwanegol, mae bysiau EST ar gael bob awr gyda'r nos o'r Llun i'r Sadwrn, gwasanaeth 95, rhwng Caerdydd (Gorsaf Ganolog) a Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, gan fynd trwy Y Barri. Am wybodaeth am amseroedd ffoniwch Traveline ar 0870 6082 608.

Gallwch deithio ar unrhyw wasanaeth Bws Caerdydd ar docyn diwrnod 'plus' y diwrnod hwnnw.
Pris tocynnau X91 rhwng Caerdydd (Gorsaf Ganolog) a Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd:
Un ffordd i Oedolion  - £3.40, tocyn diwrnod 'plus'*  -  £3.50
Un ffordd i blentyn  -  £2.20, tocyn diwrnod 'plus'*  - £2.30
Am fwy o wybodaeth am wasanaethau bws cliciwch yma.


Bws Moethus

Mae cwmni bysiau National Express yn cynnig gwasanaeth i Orsaf Fysiau Caerdydd Canolog yn rheolaidd. Am unrhyw wybodaeth ffoniwch: 08705 80 80 80 neu ewch i www.nationalexpress.com

Am y wybodaeth ddiweddaraf am drafnidiaeth gyhoeddus trwy Gymru ffoniwch Traveline ar 0870 6082 608 (cost galwadau cenedlaethol)


Trafnidiaeth Gyhoeddus

Mae Traveline yn cynnig gwybodaeth ddi-duedd am amseroedd trafnidiaeth cyhoeddus, o wasanaethau bysiau lleol, trenau, cychod, bws moethus neu gyfuniad o’r pedwar. Gellir trefnu’r daith o leoliad neu o god post penodol.
Ffoniwch Traveline ar 0870 6082 608.


Map

Map showing the location of Cardiff International Airport.

Gwefan

Am fwy o wybodaeth am Faes Awyr Caerdydd ewch i: www.cwlfly.com

 
         
Amseroedd hedfan. Prisiau Skybus. Gwybodaeth am y teithiwr. Cysylltwch â ni. ARCHEBWCH NAWR.